Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod heddiw, Gweinidog, ac fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, mae gennym ni sefyllfa lle mae un ym mhob pedwar o'n plant ni'n dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ac, fel y gwyddoch chi, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus iawn i ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ganolog i'r strategaeth hon sydd ar gyfer pob oed. Ac er mwyn llywio ein cyfraniad ni i'r ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfarfod bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid allweddol ac fe gymerais i dystiolaeth gan y prif swyddog meddygol. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi ar goedd ein diolch ni iddyn nhw.
Fel y byddwch chi wedi gweld, ym mis Ebrill, fe gyhoeddwyd ein hymateb manwl ni i'r ymgynghoriad ac fe dynnwyd sylw at y materion yr ydym ni'n credu bod angen mynd i'r afael â nhw, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Eto i gyd, rydym hefyd wedi nodi atebolrwydd yn faes allweddol y byddai angen mynd i'r afael ag ef os ydym yn dymuno gwarchod rhag sefyllfa lle mae'r strategaeth yn mynd yn waith i bawb ond yn gyfrifoldeb i neb. Roeddem hefyd yn galw am darged uchelgeisiol ar gyfer lleihau gordewdra, ac am eglurder ynghylch pwy fydd yn arwain ar y mater cymhleth a thrawsbynciol hwn yn y Llywodraeth.
Nawr, fe glywais i'r hyn a ddywedasoch wrth ymateb i Jenny Rathbone, ac rwy'n sylwi bod y strategaeth yn datgan y bydd gennym gerrig milltir annatod, yn hytrach na thargedau penodol, ar gyfer pob un o bedair thema'r strategaeth i roi prawf ar y cynnydd sy'n cael ei wneud. A wnewch chi roi rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y gwaith o fesur y cerrig milltir yn gweithio, a dweud wrthym hefyd pa arweiniad ac atebolrwydd fydd ar waith ledled y Llywodraeth i sicrhau y caiff y strategaeth hon ei chyflawni? Oherwydd, yn amlwg, nid mater yn unig i chi fel Gweinidog iechyd yw hwn. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y ceir, ledled y Llywodraeth gyfan, arweinyddiaeth addas i ysgogi hyn?