Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolch am y datganiad a'r rhybudd ymlaen llaw hefyd. Mae yna lawer, mae'n rhaid dweud, dwi'n ei groesawu yn y datganiad. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r sylwadau am ba mor bwysig y gall twristiaeth fod i Gymru a bod yna, yn ein harddwch, ein diwylliant, ein bwyd, ein chwaraeon a'n hantur, fodd i ddenu twristiaid mewn ffordd all ddod ag elw mawr i ni yn economaidd. Mi allaf i dynnu sylw at bethau sydd ddim eto wedi cyrraedd eu potensial yn fy etholaeth i—hynny ydy, Mynydd Parys. Mae yna dal gymaint all gael ei wneud i dyfu'r atyniad hwnnw, ac mi fyddwn yn croesawu cefnogaeth o unrhyw fath i hynny ac i ddweud hanes y pontydd mewn amgueddfa arall, er enghraifft.
Ond dwi hefyd yn croesawu'r cyfeiriad yn y datganiad at y peryglon o fynd yn orddibynnol ar dwristiaeth, ac mi liciwn i glywed mwy am gynlluniau'r Gweinidog i geisio rheoli hynny. Hefyd, mae yna berig, wrth gwrs, fod hwn yn gallu bod yn sector lle mae cyflogau yn rhy isel, lle mae yna ormod o sylw ar greu swyddi tymhorol, a dim digon ar helpu pobl i greu bywoliaeth dda a chynaliadwy. Does yna ddim digon o sôn am hynny yn y datganiad hwn, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau gan y Gweinidog ynglŷn â hynny.
Y mater arall y buaswn i'n hoffi gwneud sylw arno fo ydy'r cwestiwn yma o wneud yn fawr o'r brand Cymreig. Mae'r datganiad yn frith o gyfeiriadau at,
'ein brand cryf, unigryw i Gymru', at 'naws am le', sydd wastad i mi yn awgrymu rhywbeth neilltuol Gymreig. Mae yna gyfeiriadau at greu,
'cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol', at greu 'Brand Cymru Arloesol' neu 'Innovative Cymru Brand'. A gaf i awgrymu felly fod angen i'r Llywodraeth fod yn llawer mwy parod i ddod allan o dan gysgod brand Prydain yn hynny o beth? Rydym ni yn gwybod o brofiad, er enghraifft—er bod yna arwyddion fod pethau'n gwella rhywfaint—mor wan mae VisitBritain wedi bod yn rhoi sylw teg i Gymru dan eu brand nhw. Ond fel cenedlaetholwr, dwi'n gallu gweld manteision o weithio ar draws ffiniau Prydain ac Ewrop mewn bob mathau o ffyrdd gwahanol ond, wir, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd gan y Gweinidog y gwnaiff Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy penderfynol i beidio â 'dilute-io' y brand Cymreig, yn enwedig mewn rhai amgylchiadau lle mae yna gryfder go iawn i'r brand hwnnw, drwy ganiatáu ei Brydeinio fo.
Rydym ni'n sôn am fwyd yn y fan hyn. Siawns y dylem ni yn ein sioe frenhinol genedlaethol ein hunain, ein prif sioe amaeth a bwyd, fod yn gallu dathlu ein bwyd ni. Unwaith eto, o dan y brand GREAT wrth giât y sioe eleni, 'For the finest food and drink, choose the UK'. Wel na, siawns na allwn ni ddweud, 'Choose Wales' yn ein sioe ein hunain.
Mae yna lawer wedi tynnu sylw at yr ymgyrch GREAT yn hawlio buddugoliaeth tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 'Rugby is GREAT', medden nhw. Na, dyma lwyfan lle mae bod yn neilltuol Gymreig yn wirioneddol werthfawr. Does dim angen Prydeinio brand Cymru yn y cyd-destun hwnnw. Ac ni wnaf i fyth anghofio y siom o fod ym Mharis yn ystod gemau pêl-droed Ewro 2016, a mynd i'r pentref bendigedig hwnnw ar lan y Seine lle roedd pob gwlad annibynnol bêl-droed Ewropeaidd yno yn gwerthu ei hun, ac yno yn stondin Cymru roedd baner yr undeb o dan label 'Britain is GREAT'. Cymru yn gwerthu'i hun yn y fan honno. Mi oedd o'n torri nghalon i, ac mi oedd o'n gwbl, gwbl ddiangen, ac yn dangos diffyg hyder.
Gallwn ni ddim llawn gredu yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynglŷn â bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus yn ein brand ein hunain, os nad ydy'r Llywodraeth yn gallu mynnu defnyddio'r brand hwnnw a dim ond y brand hwnnw, yn sicr yn y lleoedd lle mae'r brand Cymreig yn gweiddi i gael ei ddefnyddio. Mi groesawn i sicrwydd gan y Llywodraeth fod yna fwy o feiddgarwch yn mynd i fod gan y Llywodraeth yn hynny o beth.