6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:08, 22 Hydref 2019

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n arbennig o addas, yn fy marn i, fy mod i'n gwneud y datganiad yma ar yr adeg hon. Fuodd hi erioed yn fwy addas i ddathlu diwylliant, natur unigryw a hunaniaeth Cymru, ein tirwedd a'r anturiaethau rhyfeddol sydd i'w cael, nac yn wir i wahodd pobl i'r wlad yr ydym ni i gyd yn ei hystyried i fod yn arbennig o brydferth.

Dwi'n falch iawn, felly, o'r hyn sydd wedi cael ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bod Aelodau'r Cynulliad, fel dwi'n gwybod bod y rhelyw yn y diwydiant, yn frwd iawn dros y brand cadarn ac arobryn ac unigryw i Gymru sydd gyda ni, ac sydd yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud. Ond nid yn unig y mae'r brand yma wedi cael ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr, mae wedi cael ei ddefnyddio gan fy nghyd-Weinidogion i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, i ddangos bwyd a diod gwych Cymru, a hyd yn oed i recriwtio i'r gwasanaeth iechyd.