Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 22 Hydref 2019.
Wel, fanna mae'r gair yn cychwyn. Nawr te, dwi ddim yn gyfrifol am beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud i hyrwyddo yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'Great Britain', na'u camddealltwriaeth hanesyddol nhw o beth mae'r gair yn ei feddwl. Ond fe ddywedaf i hyn: mae'n amlwg imi fod angen gwell dealltwriaeth o natur y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth aml-genhedlig ym mhob cyhoeddusrwydd sy'n cael ei roi ar gyfer yr uned hon—ynysoedd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn wir, y mae'r deunydd ar gyfer hyn i'w gael yn glir, os ydy rhywun yn deall yr hanes, a chyfleu’r hanes fel gwahoddiad i ddod i wladwriaeth amrywiol ei chenhedloedd ydy’r hyn sydd yn allweddol i ni wrth hyrwyddo. Mae hynny'n cael ei gynnal yn ein cysylltiad ni. Mae gyda ni gysylltiad, wrth gwrs, rhwng Croeso Cymru a VisitBritain, ac mae gennym ni gynrychiolaeth ar dwristiaeth y Deyrnas Unedig, ond ein bwriad ni bob amser ydy ein bod ni’n hyrwyddo Cymru fel gwlad ac fel gwlad unigryw.
Dwi’n gwerthfawrogi hefyd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd peidio â chael gorddibyniaeth ar dwristiaeth yn yr economi. Ond wedi dweud hynna, y peth pwysig yw hyrwyddo gwahanol lefydd fydd yn apelio at wahanol fathau o ymwelwyr, gan gynnwys yr ymwelwyr sy’n dod o’r Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, pobl Cymru sydd am ymweld yn eu gwlad eu hunain. Dwi ddim wedi gallu dyfeisio gair digon da at fy meddwl fy hun i gyfieithu 'staycation', ond mi fuaswn i’n rhoi gwobr fechan, nid anferth, i rywun fuasai’n gallu dyfeisio'r term yna oherwydd mae’r ddau beth yna, fel y dywedwyd yn gynharach—y farchnad ryngwladol a hefyd y bobl sydd yn dewis gwyliau yn eu gwlad eu hunain—yr un mor bwysig i ni. Ac felly, mae hyrwyddo Cymru fel Cymru ac fel cenedl unigryw o fewn y Deyrnas Unedig yn ganolog i’r cyfan mae Croeso Cymru yn ei wneud oherwydd hwnna ydy ein pwynt gwerthu gwerthfawrogaf ni.