Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 23 Hydref 2019.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Fe fyddwch yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, fy mod yn ddiolchgar iawn i chi am dreulio amser yn fy hen ysgol, sef Ysgol Gyfun Tredegar, wrth gwrs. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, fe dreulioch chi beth amser yn siarad â chyngor yr ysgol, a byddwch yn cofio bod llawer o’u cwestiynau i chi yn ymwneud â materion iechyd meddwl a lles. Ac roeddwn yn credu bod y sgwrs a gawsoch gyda'r cyngor ysgol yn sgwrs dda, gref a phwerus iawn, a byddant hwythau, rwy'n siŵr, yn croesawu'r datganiad a wnaethoch yn gynharach heddiw. Ond sut y gallwch adeiladu ar hyn a gwneud dull mwy cyfannol, creu dull mwy cyfannol, o sicrhau bod lles ac iechyd meddwl pobl ifanc a phlant mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ysgolion ac i'r Llywodraeth hon?