Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Hydref 2019.
Wel, credaf mai'r agwedd gyntaf er mwyn ymateb yn briodol i anghenion y plant hynny yw sicrhau bod eu hanghenion dysgu penodol yn cael eu nodi’n gynnar yn eu gyrfa ysgol. A dyna pam fod y Llywodraeth hon yn gwario adnoddau ar sicrhau bod mwy a mwy o'n gweithwyr proffesiynol yn cael hyfforddiant fel y gallant nodi arwyddion o ystod o wahanol ffactorau a allai effeithio ar les plant a’u gallu i ddysgu, ac i allu ceisio cymorth gan weithwyr proffesiynol eraill, os yn briodol, i ddiwallu anghenion dysgu unigol y plant hynny. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod y defnydd o offer sgrinio, ac i weld a oes sylfaen dystiolaeth gref y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth.