Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 23 Hydref 2019.
Ar 31 Mawrth 2019, cafodd gwarged o £455,000 ei gario ymlaen gan naw ysgol uwchradd yn Sir Benfro, a chafodd diffyg o £120,000 ei gario ymlaen gan un ysgol uwchradd. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gyllid ysgolion, a dylent fonitro cyllidebau ysgolion unigol yn agos.