Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, y llynedd, honnodd panel annibynnol na fyddai mater llwyth gwaith athrawon ond yn cael sylw drwy edrych ar strwythur ehangach addysg ysgol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw'r ffordd y mae ein hysgolion yn gweithio—eu harferion, eu patrymau a'u systemau—wedi newid o gwbl, fwy neu lai, ers dechrau rhoi addysg ysgol i bob plentyn yn oes Fictoria. Weinidog, a ydych wedi gweld yr adroddiad hwn, a beth yw eich ymateb i'w alwad i sefydlu comisiwn i ystyried a fyddai newid y system o ran dyddiau, tymhorau a gwyliau ysgolion yn arwain at newidiadau a fyddai'n lleddfu'r pwysau ar staff addysgu?