Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Hydref 2019.
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le yn nodi'r ffordd y mae'r mwyafrif llethol o'r adnoddau sy'n ariannu ein hysgolion yn fater i awdurdodau lleol. Yn ddiweddar, cyfarfûm â’r is-grŵp dosbarthu cyllid i drafod y materion hyn, yn ogystal â’r cyfarwyddwyr addysg a’r portffolios addysg, ar draws y 22 awdurdod lleol, ynglŷn â fy awydd i weld cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen er mwyn cefnogi cyllidebau ysgolion unigol. Mae gennym ran i'w chwarae yn hyn wrth gwrs, a dyna pam y cyhoeddasom £12.8 miliwn yn ychwanegol ddoe, a fydd ar gael yn ystod y flwyddyn i gynorthwyo gyda chost codiad cyflog athrawon eleni. A'n disgwyliad yw y bydd yr holl arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i gyllidebau rheng flaen ysgolion.