Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 23 Hydref 2019.
Nid wyf wedi cael unrhyw sylwadau gan undebau'r athrawon am y manylion penodol y mae'r Aelod yn eu crybwyll ynghylch gweithio'n rhan-amser ac yn hyblyg, er bod materion llwyth gwaith yn gyffredinol yn eitem sefydlog ar yr agenda bob tro y byddaf yn cyfarfod ag undebau'r athrawon. Mae'r hyblygrwydd a nodwyd gan yr Aelod yn wir yn un o'r pethau y mae'r comisiwn i ailfeddwl y diwrnod ysgol yn eu hystyried ac i weld a oes awydd gwirioneddol am newid yn hyn o beth.