Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Hydref 2019.
Wel, yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau unigol y cyfeiria'r Aelod atynt, ond ni fuaswn yn ceisio amddiffyn achos o ganslo llawdriniaeth ddifrifol bum gwaith. Buaswn yn awyddus i ddeall beth sydd wedi digwydd a pham. Ac ym mhob un o'r achosion hyn lle nad yw ein system yn cyflawni'r canlyniadau y byddem yn dymuno'u cael mewn modd amserol, mae gwersi i'w dysgu bob amser ynglŷn â beth i'w wneud yn y dyfodol, yn ogystal ag angen i roi gwybod i'r unigolyn dan sylw a bod yn onest am y ffaith nad ydynt wedi cael y gofal na'r gefnogaeth y byddem am iddynt eu cael. Ond os dymuna'r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion mwy penodol, rwy'n fwy na pharod i ystyried hynny'n fwy manwl er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, yn ogystal â'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwy'n poeni bod un clinigydd yn dweud bod pobl yn cael niwed.