Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch o ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi ar iechyd a gofal digidol a ddangosai fod cynnydd yn cael ei wneud, ac yn sicr mae'n rhywbeth y gwelaf ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar y rheng flaen mewn ymweliadau â gwahanol brosiectau yn fy etholaeth. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at sut y gall iechyd a gofal digidol gefnogi fy etholwyr drwy bethau fel atgyfeiriadau electronig, ac enghreifftiau cyffrous hefyd a welais megis y model nyrsio cymdogaeth, gan ddefnyddio meddalwedd Malinko, sy'n cael ei dreialu yng nghlwstwr gogledd Cynon. Sylwaf yn eich datganiad ysgrifenedig ar eich sylwadau ynghylch sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon, ac mae'n ymddangos i mi fod gennym lawer iawn o arferion da mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Felly, hoffwn ddysgu mwy ynglŷn â sut y bwriadwch sicrhau y gellir lledaenu'r arfer da hwn, ac y gall pob rhanddeiliad ymrwymo i'r agenda wirioneddol bwysig hon.