Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:51, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, un o'r rhwystrau mwyaf o ran cynyddu cyfraddau brechu yw cynnydd mewn gwybodaeth anghywir ar-lein, ac fel y dywedoch chi, y mudiad gwrth-frechu. Pan fo enwogion ac arbenigwyr honedig yn lledaenu mythau ac yn dweud celwyddau yn wir am frechu ar Facebook a Twitter, mae'n gwneud gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llawer anos. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddogion cyfatebol yng ngweddill y DU i fynd i'r afael â gwybodaeth anghywir am frechlynnau, ac a ydych wedi ystyried ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i sôn am ddiogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau?