Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'n siwr y cytunwch â mi nad yw'r toiled hygyrch safonol yn diwallu anghenion pawb sydd ag anableddau corfforol, megis y rhai sy'n dioddef o anafiadau i'r cefn neu sglerosis ymledol er enghraifft, ac yn aml, mae angen cyfarpar a lle ychwanegol ar bobl i ganiatáu iddynt ddefnyddio toiled yn ddiogel ac yn gysurus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr ceir cyllid penodol y gellir gwneud cais amdano i osod cyfleusterau toiled Changing Places. Tybed a allech amlinellu, Ddirprwy Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hygyrchedd cyfleusterau toiled Changing Places i bobl sydd ag anawsterau corfforol neu anawsterau dysgu lluosog, cyfleusterau sy'n sicr yn brin iawn ledled Cymru. Mae hynny'n bendant yn wir yn fy etholaeth i yn Sir Drefaldwyn.