Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 23 Hydref 2019.
Mae'n hanfodol fod gwybodaeth dda i'w chael am brofiadau gofalwyr, a dyna pam rydym wedi ariannu Gofalwyr Cymru i gynhyrchu arolwg 'Dilyn y Ddeddf'. Mae'r argymhellion a'r data yn cael eu hystyried ac fe'u defnyddir i lunio polisi gofalwyr cenedlaethol a'n gwaith gyda darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid.