Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 23 Hydref 2019.
Iawn. Rwy'n cydnabod yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson yn eu hwynebu a'r effaith y mae'n ei chael ar ofalwyr, ffrindiau a theuluoedd. Dyna pam rydym yn gweithio gyda thimau Parkinson arbenigol ein byrddau iechyd i helpu pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson a'u gofalwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.