Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:47, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

—mae gennym bobl yn cael eu penodi pan fo'n amlwg na allant wneud eu gwaith, ac yna mae'n rhaid iddynt gael ymyrraeth ddrud iawn i'w galluogi i'w wneud. Onid yw'n bryd i'r Gweinidog gydnabod nad yw system y byrddau iechyd lleol yn gweithio? Ei holl bwynt oedd galluogi gwaith craffu annibynnol ar y gweithwyr proffesiynol. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Onid yw'n bryd ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â sut y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal eu llywodraethu?