Ymgynghorwyr Allanol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:13, 23 Hydref 2019

Wel, un o’r bobl hynny yw Philip Burns, sydd wedi cael ei gyflogi gan y bwrdd, mae’n debyg, i fod yn rhan o’r broses o geisio adnabod cyfleoedd i arbed pres. Nawr, yn ôl y sôn, mae e’n cael ei dalu £2,000 y dydd, ynghyd â chostau i deithio nôl ac ymlaen o Marbella. Dwi wedi gofyn i’r bwrdd iechyd i gadarnhau ydy hyn yn wir ers dros fis. Dwi ddim wedi cael ymateb, ac felly dwi wedi cael fy ngorfodi i gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth.

Nawr, dyma’r gŵr, wrth gwrs, mae’n debyg, sydd y tu ôl i’r bwriad i newid rotas nyrsys—rhywbeth sydd wedi achosi cryn ofid ymhlith nyrsys yn y gogledd ac, yn wir, wedi tanseilio llawer o’r ewyllys da sydd rhwng nyrsys a’u cyflogwyr. Nawr, mae’n debyg bod ei gyflog e’n fwy sylweddol na’r arbedion fydd hynny’n yn eu cynhyrchu. Ond ta waith am hynny, fy nghwestiwn i yw: oni ddylai fod yna fwy o dryloywder o gwmpas y modd y mae’r bobl allanol yma yn cael eu cyflogi? Ac onid ydych chi’n cytuno â fi ei bod hi’n gwbl annerbyniol fy mod i wedi cysylltu ers dros fis â’r bwrdd i ofyn am y manylion hynny a fy mod i dal heb gael ateb?