Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, unwaith eto, rydym yn brwydro yn erbyn achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau ymhlith myfyrwyr prifysgol. Cafwyd oddeutu 30 o achosion tybiedig o glwy'r pennau ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae hyn yn dilyn colli statws heb frech goch y DU yn gynharach eleni, dair blynedd yn unig ar ôl i ni gael gwared ar un o afiechydon mwyaf heintus y byd. Gellir priodoli'r cynnydd yn y clefydau ofnadwy hyn i'r niferoedd rhy isel o bobl sy'n cael eu brechu. Rydym ar y blaen i weddill y DU o ran cyfraddau brechu, gyda 92 y cant o blant Cymru yn cael y brechlyn MMR, ond mae hyn yn dal i fod yn is na'r targed. Weinidog, pa fesurau newydd rydych yn eu hystyried i gynyddu cyfraddau brechu yng Nghymru, yn enwedig ymhlith myfyrwyr prifysgol?