Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 23 Hydref 2019.
Ni wnaeth y Senedd gymeradwyo'r cytundeb Brexit niweidiol. Dim ond pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth i symud ymlaen i'r cam nesaf a wnaeth, lle rwy'n llawn ddisgwyl i welliannau sylweddol gael eu gwneud. Rwy'n falch bod y Senedd wedi cytuno â'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ein bod yn gwrthod yr ymgais i wthio'r ddeddfwriaeth hon drwodd i gyd-fynd â therfyn amser artiffisial a bennwyd gan y Prif Weinidog.