Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, yn un anghyffredin i'r blaid sydd wedi'i chyflwyno, ac rwy’n meddwl tybed a fyddant yn cyhoeddi pamffled polisi yn nodi sut i ddatrys problemau credyd cynhwysol y mis nesaf.
Rydym wedi cyflwyno nifer o welliannau i'r cynnig hwn, ac mae rhai ohonynt yn ceisio gosod argyfwng digartrefedd yn y cyd-destun cywir—toriadau nawdd cymdeithasol a chyni ehangach sydd wedi dileu llawer o'r gwasanaethau a arferai ddarparu rhwyd ddiogelwch. Ond hoffwn ganolbwyntio'n bennaf ar ddau o'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma. Y cyntaf yw gwelliant 12, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwasanaeth priodol i'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddigartref. A hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at yr ymchwiliad diweddar gan y Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol a ddarganfu fod awdurdodau lleol wedi troi cefn ar 32,000 o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr oherwydd mân gamgymeriadau, yn aml, yn y broses ymgeisio—camgymeriadau mor fach â cholli e-bost, neu fethu ymateb i lythyr na chafodd ei ddosbarthu. Caiff ymgeiswyr yn y sefyllfa hon eu categoreiddio fel rhai anghydweithredol, ac felly, bydd unrhyw gymorth a gânt yn cael ei dynnu'n ôl neu ni chaiff ei ddarparu. Nawr, bydd unrhyw un sydd wedi gweithio yn y sector yn gwybod sut y gall porthgadw fod yn broblem enfawr—er gwaethaf yr holl ddeddfau a chyllid ar gyfer gwasanaethau, gall swyddog awdurdod lleol anwybyddu'r rhain a gwadu cymorth i berson am resymau sy'n cynnwys rhagfarn a diffyg dealltwriaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn mynd i dynnu sylw at ganllawiau diweddar a roddwyd i weithwyr tai proffesiynol ar helpu pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, sy'n nodi sut y mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth wedi cael eu labelu fel rhai anghydweithredol. Ond mae angen gwneud mwy na hyn, ac i ddechrau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau cynghori'n cael eu hariannu'n iawn.
Ond mae'n rhaid i ni fod yn onest. Mae angen mwy o ddealltwriaeth gan swyddogion ac mae'n rhaid ystyried y math hwn o borthgadw negyddol, beirniadol a chosbol yn gamymddwyn difrifol. Tybed a oedd gan Boris Johnson y rheolau credyd cynhwysol mewn golwg pan wrthododd lofnodi'r llythyr yn gofyn am estyniad i ddyddiad cau Brexit; tybed a oedd yn rhagdybio y byddai'r UE yn ei ystyried yn yr un modd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried cais am gredyd cynhwysol ac yn ei wrthod ar y sail na chafodd ei lofnodi.
Mae gwelliant 11 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymuno â ni i ymgyrchu dros ddileu’r Ddeddf Crwydradaeth. Ni ellir cyfiawnhau ein bod yn troseddoli tlodi, ac yn lle defnyddio’r system cyfiawnder troseddol yn y modd hwn, byddai’n well gan Blaid Cymru gefnogi pobl. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, a fyddech chi'n barod i gyfarwyddo eich comisiynwyr heddlu a throseddu eich hun i wneud yr hyn y mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi'i wneud a chefnogi dirymu Deddf Crwydradaeth ac i'r heddlu beidio â defnyddio'r pwerau hynny? Buaswn yn dychmygu bod yna rai Torïaid a allai fod yn difaru creu swyddi gwleidyddol y comisiynwyr heddlu a throseddu gan eu bod bellach yn tanseilio polisïau Torïaidd.
Nawr, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn rhywbeth sydd o fewn ein gallu a bod peidio â'i wneud yn ddewis gwleidyddol. Cynhyrchodd Crisis adroddiad cynhwysfawr yn dangos i ni sut i ddod â digartrefedd i ben y llynedd, ac mae'n cynnwys argymhellion clir ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys newidiadau deddfwriaethol. Felly, fy neges yw fod yn rhaid i ni roi'r gorau i siarad yn awr a bwrw ymlaen â gweithredu'r argymhellion hynny'n llawn. Diolch.