Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 23 Hydref 2019.
Oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am niferoedd? Gwn fod yna—wrth gwrs, fod digartrefedd yn bodoli 40 mlynedd yn ôl, a byddai wedi bod yn fwy cyffredin yn Llundain—wrth gwrs. Ond mae'r niferoedd gwirioneddol o bobl y gallwch eu gweld yn cysgu ar y strydoedd yn awr yn llawer uwch nag unrhyw beth a welais erioed o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r rhesymau rydych wedi'u disgrifio. A oes gennych unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod nifer y digartref yn broblem fwy o lawer nag oedd hi, dyweder, 40 mlynedd yn ôl?