Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 23 Hydref 2019.
Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, 'Mynd i'r Afael â Digartrefedd', a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.