Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Wel, digwyddais siarad â Katherine Bennett ar y bore yr anfonwyd y trydariad hwnnw a dywedodd yn glir wrthyf nad ei geiriau hi oeddent. Rwy’n amau efallai fod gan swyddfa orfywiog y cyn Ysgrifennydd Gwladol y soniwyd amdano gynnau rywbeth i’w wneud â hyn, ond gan roi hynny o'r neilltu am funud, credaf fod daearyddiaeth economaidd yno rydym am ei harchwilio a manteisio arni, ond rydym yn Llywodraeth ddatganoledig, mae gennym ffin i'w pharchu, ac yn sicr, nid ydym am fod yn naïf ynghylch yr agendâu gwleidyddol sydd ar waith yn San Steffan mewn perthynas â hyn, ond rydym eisiau'r gorau i bobl yn y rhan honno o Gymru a'n cymdogion agosaf.