Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Wel, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb cryno, ond Ddirprwy Weinidog, mae'r fframwaith cenedlaethol drafft yn cwmpasu cynlluniau datblygu lleol, cynlluniau datblygu strategol, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, pob un ohonynt yn sefyll ochr yn ochr â 'Pholisi Cynllunio Cymru', a phob un yn seiliedig yn ôl y sôn ar strwythur rhanbarthol. O ystyried yr awydd hwn i newid i ganolfannau llywodraethu rhanbarthol, a allai Llywodraeth Cymru ystyried cael pum canolfan lywodraethu ranbarthol yn unig, yn seiliedig, efallai, ar ranbarthau etholiadol Cynulliad Cymru, yn hytrach na'r gymysgedd ychydig yn ddi-drefn o ranbarthau economaidd sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sydd bellach yn bodoli neu'n cael eu hargymell? Byddai gan y rhanbarthau mwy hyn gyllidebau mwy, a fyddai'n hwyluso cynllunio strategol yn well, yn enwedig ar gyfer prosiectau seilwaith, ac felly'n sail i gynllun datblygu strategol y Llywodraeth ar gyfer Cymru.