Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cynnig i wneud Casnewydd yn ganolbwynt ar gyfer twf economaidd wedi'i groesawu gan bawb yn Nwyrain De Cymru, ac rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyhoeddiad. Fodd bynnag, deallaf fod cyngor dinas Caerdydd wedi beirniadu’r cynnig hwn, gan ddadlau y byddai'n mynd â swyddi a buddsoddiad allan o Gymru ac yn tanseilio rôl Caerdydd fel sbardun economaidd i economi Cymru.
Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod eu dadl yn mynd yn groes i'r cynllun datblygu rhanbarthol a'r gwaith o sefydlu cynlluniau datblygu strategol sy'n cwmpasu prifddinas-ranbarth Caerdydd mewn gwirionedd?