Gweithwyr Dur Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:34, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, dylai gwaith dur Orb yng Nghasnewydd barhau i weithredu, a chyda'r lefel gywir o gefnogaeth gan Tata Steel, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, byddai'n cael ei alluogi i gynhyrchu duroedd trydanol ar gyfer cynhyrchiant ceir trydan yn y dyfodol. Mae ymgyrch leol gref iawn ar waith i sicrhau bod gwaith Orb yn parhau i weithredu, ac yn wir, mae wedi bod yn un o nodweddion bywyd economaidd yng Nghasnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A allwch ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny, ac a fyddech yn croesawu ymgyrch a lansiwyd heddiw gan y South Wales Argus, sydd wedi lansio deiseb o blaid cadw gwaith dur Orb?