Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Gwnaf. Mae parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn hanfodol i'n rhwydweithiau trafnidiaeth. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau lleol i fonitro lefelau stociau halen, gan sicrhau y gallwn gynnal diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chwmnïau rheilffyrdd a bysiau i sicrhau parodrwydd y system drafnidiaeth gyhoeddus.