Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Er ein bod yn credu mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu economi Cymru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio mesurau fel ein cronfa cydnerthedd Brexit, y cyhoeddasom gyllid ychwanegol o £6 miliwn ar ei chyfer yr wythnos hon.