Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i Carwyn Jones am ei sylwadau ac am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gorchymyn, bydd y Cyfrin Gyngor yn ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf. Rwy'n disgwyl i'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwnnw gael ei gadarnhau yn dilyn etholiad cyffredinol y DU. Ac i gloi, a gaf fi gofnodi fy niolch i swyddogion yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ei gwneud hi'n bosibl dwyn y ddeddfwriaeth hon gerbron yn gyflym?