Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Nid wyf yn derbyn cynsail cwestiwn yr Aelod fod y data yn gyson annibynadwy. Rydym yn agored ac yn onest ynglŷn â'r cywirdeb sydd gennym yn ein hystadegau swyddogol. Mae'r ystadegau swyddogol hynny, wrth gwrs, yn helpu i lywio'r dewisiadau a wnawn a'r gwaith craffu sydd gennym ar ein gwasanaethau. Rwy'n credu bod ymosodiad cyffredinol sy'n dweud, 'Ni allwch ddibynnu ar ddata a ddarperir gan y GIG' yn gyfeiliornus ac nid dyna'r ffordd rwy'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth iechyd.