Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Ac wrth gwrs, un o'r ffyrdd o wneud hynny yw'r ffordd rydym yn lleoli ein lleoedd hyfforddiant meddygol, lle rydym yn eu rhoi a'r hyn rydym yn cysylltu pobl ag ef, oherwydd mae'n ffaith gydnabyddedig, os dechreuwch hyfforddi mewn ardal benodol, a'ch bod yn datblygu eich bywyd cymdeithasol, eich rhwydwaith yno, rydych chi'n llawer mwy tebygol o aros. Mae'n ddrwg iawn gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli mai dim ond tri munud oedd gennyf ar hyn.