Yr Argyfwng Hinsawdd

Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:36, 12 Tachwedd 2019

Mae'r sector ynni hydro wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid ynglŷn â sefyllfa trethi busnes annomestig. Fe fyddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fod grant wedi bod yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn cynorthwyo gyda thalu hynny a gwarchod y prosiectau hynny rhag cynnydd sylweddol posib yn y dreth annomestig. Mae yna dros flwyddyn nawr ers i'r Llywodraeth gomisiynu a chyhoeddi adroddiad oedd yn edrych ar y sefyllfa a hefyd yn cynnig dulliau amgen. Ond rŷn ni nawr yn cyrraedd y pwynt lle, wrth gwrs, bydd yna gyllideb yn cael ei hoedi cyn ei chyhoeddi eto eleni, a dyw'r sector dal ddim yn gwybod a fydd y grant yn bodoli'r flwyddyn nesaf neu a fydd yna newidiadau mwy pellgyrhaeddol i'r ffordd maen nhw'n cael eu trethu. Maen nhw mewn limbo. Maen nhw angen gwybod yn union beth sy'n digwydd, oherwydd os na fyddan nhw'n cael eu gwarchod rhag y codiad hwn, yna yn amlwg bydd nifer ohonyn nhw yn mynd allan o fusnes. Felly, pryd, yw fy nghwestiwn i, y byddan nhw'n cael gwybod beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf.