Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob haf, mae plant yn llwgu, mae llawer o rieni yn colli 10 o brydau am ddim fesul plentyn yr wythnos pan fydd ysgolion ar gau. Byddwn yn cymeradwyo gwaith fy nghydweithiwr Carolyn Harris, a fu'n bwydo ymhell dros 5,000 o blant yn ystod yr haf yn Nwyrain Abertawe, ond yn sicr nid oedd hynny'n cyrraedd pawb a oedd ar eu colled o ran y bwyd am ddim. A wnaiff y Prif Weinidog nodi costau parhau i gynnig brecwast am ddim mewn ysgolion drwy wyliau'r haf, ac yna ystyried ei ariannu? Mae'n debyg mai dyma fyddai'r ffordd orau o ymdrin â thlodi plant yng Nghymru.