Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n codi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9, Cadw Trefn, a gwnaf hynny i gefnogi eich safbwynt, Llywydd. Os edrychwn i ar Reol Sefydlog 13.9 (i), mae'n ofynnol bod yr Aelodau'n cael eu galw i drefn os ydyn nhw'n
'ymddwyn mewn ffordd a fyddai, ym marn y Llywydd, yn gyfystyr â thramgwydd troseddol neu ddirmyg llys'.
Rwy'n atgoffa'r Aelodau nad yw braint yn berthnasol i awdurdodi troseddau yn y Siambr hon. Dim ond pan ddaw'n fater o faterion sifil nad ydyn nhw'n ymwneud â materion troseddol y mae'n berthnasol. Rwyf wedi clywed gan Mark Reckless heddiw, a gofynnaf iddo fyfyrio ar hyn, cwestiwn a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ynghylch y Gweinidog Cyllid a Threfydd, Rebecca Evans, am y data nad oedd modd ei gael ond trwy recordio'n gudd. Os yw data o recordiad cudd, sy'n sôn am drydydd parti, yn cael ei roi ar goedd, gall hynny fod yn drosedd, a gofynnaf ichi ystyried hynny a dyfarnu ar hynny.
Tynnaf eich sylw hefyd at 13.9(iv): Aelod
'sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol'.
Rydym ni i gyd yn y Siambr hon, o bryd i'w gilydd, yn cael ein gwthio i ymddwyn mewn ffordd na fyddem ni fel arall. Mae'n rhan arferol o weithredu democratiaeth. Gwyddom fod y Siambr hon yn lle bywiog, ond nid yw'n weddus, nac yn anghwrtais ychwaith, i gyhuddo'r Llywydd o ragfarn ac yna gynnig geiriau camarweiniol—geiriau camarweiniol—a methu â thynnu'r honiad hwnnw'n ôl. Mae Rheol Sefydlog 13.9(v) yn ymdrin â
'defnyddio iaith sy'n groes i’r drefn, iaith sy'n gwahaniaethu neu sy'n peri tramgwydd'.
Wel, roedd iaith sy'n groes i drefn, fe gredaf i, ymhlyg ac yn eglur yn yr hyn a ddywedwyd gan Mark Reckless.
Rheol Sefydlog 13.9 (vi):
'gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad Aelodau'.
Nid oedd ef wedi cydymffurfio â'r cais gennych iddo dynnu'r honiad o ragfarn yn ôl. Ni fyddai wedi cael gwneud hynny mewn unrhyw le arall, ac nid wyf eisiau i'r Siambr hon gael ei gweld fel rhywle lle y gall pobl gael rhwydd hynt i wneud unrhyw beth. Fel arall, mae hynny'n arwain at anhrefn lwyr.
Ac, yn olaf, 13.9(vii): diystyru awdurdod y Cadeirydd. Rwyf i wedi gweld dau aelod yn gwneud hynny yn y Siambr hon y prynhawn yma. Gwelais yr Aelod, Neil McEvoy, nad yw yma gyda llaw, ac ni fyddwn yn cyfeirio at hynny fel arall, ond rwy'n credu ei bod yn werth cyfeirio at y trydariad y mae newydd ei anfon. Trydariad wedi'i anfon gan Neil McEvoy: dylai @yLlywydd fod wedi datgan diddordeb heddiw, cyn trafod y recordiadau a wnaed gennyf i. Cyfeiriwyd ati hi ynddyn nhw. Cwestiynau i'w hateb.
Nid yw hyd yn oed yn y Siambr, ond mae'n ymosod arnoch chi, Llywydd. Ac i bob pwrpas, fe'i gwelais yn gweiddi ar eich traws neu'n ceisio gweiddi ar eich traws y prynhawn yma, a dyna ymddygiad y byddai pob un ohonom ni yn y Siambr hon, gwn hynny, yn ei gondemnio'n llwyr. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Mark Reckless, yn yr hyn a ddywedodd pan fethodd â thynnu'n ôl, ar eich cais penodol chi, gyhuddiad o ragfarn mewn modd a oedd yn ddiamod, ac unwaith eto gofynnaf iddo ef fyfyrio ar hynny, ac roedd yn diystyru'n llwyr, yn fy marn i, bron yn ddirmygus o, Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. A dywedaf yr holl bethau hyn i'ch cefnogi chi, Llywydd. Gofynnaf i chi, felly, edrych ar Reol Sefydlog 13.9 (i) ac ystyried eich pwerau o dan y Rheol Sefydlog honno i ymdrin â sefyllfa nad wyf wedi gweld ei thebyg mewn 20 mlynedd yn y Siambr hon.