Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd peillwyr i'r amgylchedd naturiol a'r angen i wrthdroi'r dirywiad yn eu niferoedd. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan eich adran i wella'r gwaith o reoli tir yng nghefn gwlad, gan gynnwys tir fferm, i sicrhau bod pwysigrwydd peillwyr yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu yng Nghymru?