Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac i sicrhau ei bod yn cael ei rheoli'n broffesiynol. Mae dros 5,000 o unigolion a 2,000 o fusnesau yn y rhanbarth wedi ymuno â Cyswllt Ffermio, sy'n elfen hanfodol o'n cymorth i'r gymuned ffermio.