Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig iawn fod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am y canlyniadau amgylcheddol nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt ar hyn o bryd. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod pobl yn dod i Gymru i weld y tirweddau prydferth. Maent yno oherwydd ein ffermwyr a'n sector amaethyddol, ac mae'n gwbl briodol eu bod yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Roedd y fferm y lansiais yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' arni—roedd y broses o ddal carbon ar ei fferm yn anhygoel. Y tunelli o garbon a ddaliai—nid yw'n cael ei wobrwyo am hynny ar hyn o bryd, ac fe ddylai.