Y Sector Bwyd-amaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys cynigion, polisïau a phroffiliau allyriadau manwl fesul sector i gyflawni Cymru carbon isel ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Bydd cynlluniau ffermio a chynlluniau gweithredu bwyd yn y dyfodol yn cael eu cydgysylltu'n barhaus i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.