Y Sector Bwyd-amaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu y byddwn yn sicr yn gweld prisiau'n codi os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac un o'r rhesymau pam y bûm yn gweithio gyda'r sector amaethyddol, yn enwedig y sectorau cig coch a llaeth, yw i'w gwneud yn fwy gwydn a chystadleuol. Mae'r sector amaethyddol yn gwneud llawer o waith mewn perthynas â lleihau eu hallyriadau. Amaethyddiaeth oedd i gyfrif am 13 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2017, ac mae NFU Cymru yn enwedig wedi cyflwyno polisïau da iawn ar gyfer dod yn sero net.