Polisi Ynni Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:15, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r broses o gyflwyno mesuryddion deallus—rhaglen y DU, wrth gwrs—ond rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei helpu i raddau helaeth, wedi arafu'n ddiweddar. Nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, ond mae'n bwysig ein bod yn mynd yn ôl ar y trywydd cywir, oherwydd, yn enwedig i'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd, pan fyddwn wedi newid yn llwyr i dariffau sy'n seiliedig ar y mesuryddion hyn a gwahanol gyfraddau drwy gydol y dydd, gallai'n sicr fod yn ffordd allan o dlodi tanwydd i lawer iawn o bobl.