Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Weinidog, mae oddeutu blwyddyn ers i Hefin David—a dweud y gwir, ers i Andrew R.T. Davies ddwyn mater cyfyngu ar hawliau cominwyr yn eu hardaloedd i'ch sylw. Ond ar y pryd, soniais wrthych am y broblem o'r cyfeiriad arall, ynghylch trigolion Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr yn fy rhanbarth, lle mae hawliau comin yn cael eu harfer braidd yn anghyfrifol, os caf ei roi felly, sy'n golygu bod trigolion sy'n byw mewn pentrefi ger y tir comin yn gorfod dioddef anifeiliaid yn crwydro drwy eu gerddi a'u strydoedd oherwydd nad yw, wel, un cominwr penodol yn cadw rheolaeth arnynt. Ar y pryd, gofynnais ichi a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud drwy is-ddeddfwriaeth—pwynt tebyg i'r un a godwyd gan Hefin—i helpu cominwyr i arfer eu hawliau'n gyfrifol, oherwydd mae'n bwysig fod hawliau'n cael eu parchu a'u diogelu, wrth gwrs, ond dylid eu harfer gan ystyried y bobl o'u hamgylch. Diolch.