Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch, Lywydd, a chynigiaf gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021, felly o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.
Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn ceisio cyllideb o £61.411 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £36.274 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn—sef ein cyllideb weithredol—£16.172 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £0.5 miliwn ar gyfer gwariant cyn etholiad, ac £8.465 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.
Cyn imi fanylu ymhellach ar ofyniad cyllideb y Comisiwn, hoffwn wneud sylwadau ar ddwy eitem benodol y credaf fod angen tynnu sylw atynt yn y ddadl hon. Rwyf am ddweud yn glir fod y ddwy eitem y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn. Fel y byddwch wedi gweld, mae'r gyllideb yn dangos cynnydd o gymharu â chyllideb y llynedd a'r ffigurau rhagolygol a gynigiwyd gennym yn ein dogfen gyllideb yr adeg hon y llynedd. Y rheswm cyntaf am hyn yw'r gofyniad i sefydliadau roi cyfrif am asedau ar brydles yn yr un ffordd ag y maent yn rhoi cyfrif am asedau y maent yn berchen arnynt, yn dilyn gweithredu safon adrodd ariannol rhyngwladol 16. Safon gyfrifo annibynnol yw hon a fabwysiadir yn gyffredin ar draws y byd.
Mae'n bwysig pwysleisio, o safbwynt cyllid neu arian parod, nad yw hyn yn effeithio ar faint o arian parod sydd ei angen arnom o gronfa gyfunol Cymru, ond mae'n cynyddu ffigur cyffredinol y gyllideb. Heb y newid hwn yn y rheolau cyfrifo, byddai cyfanswm y gyllideb wedi bod yn sylweddol is ar £59.575 miliwn, ac i gynorthwyo gyda thryloywder a dealltwriaeth, rydym wedi cynnwys y ffigurau cyn ac ar ôl safon adrodd ariannol rhyngwladol 16 yn nogfen y gyllideb.
Yr ail eitem i dynnu sylw'r Aelodau ati yw'r cynnydd yn y gyllideb rhwng y gyllideb ddrafft a fersiwn derfynol y gyllideb hon. Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar 24 Medi 2019 a chynhaliodd y Pwyllgor Cyllid sesiwn graffu ar y ddogfen honno ar 3 Hydref. Roedd dogfen y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif synhwyrol o’r cynnydd yn yr arolwg blynyddol o fynegai oriau ac enillion sy’n berthnasol i gyflogau Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad o fis Ebrill 2020. Yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd yn y ddogfen honno oedd 2 y cant, amcangyfrif synhwyrol iawn sy’n seiliedig ar gynnydd gwirioneddol o 2.3 y cant ym mis Hydref 2017 ac 1.2 y cant ym mis Hydref 2018, ill dau o fewn yr ystod dderbyniol o amcangyfrifon y gyllideb. Fodd bynnag, ar 29 Hydref 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y data ar gyfer 2019, ac mae'r cynnydd, yn annisgwyl, yn fwy na dwbl yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd gennym, gan alw am gynnydd o £360,000 yn fwy na’r hyn a oedd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ddrafft. Nawr, fel y byddwch yn deall, daw'r cadarnhad hwn yn hwyr iawn yn y dydd, ond rydym wedi cynnwys y swm ychwanegol yn y gyllideb derfynol ac wrth gwrs, rydym wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor Cyllid am y cynnydd hwn. Mae'r ddwy eitem wedi'u hesbonio'n llawn i'r Pwyllgor Cyllid, ond rwy'n ailadrodd eu bod y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn.
Gan ddychwelyd at ein cyllideb gyffredinol, mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gofyniad ariannol ar gyfer blwyddyn olaf y pumed Cynulliad, sy'n cynnwys darpariaeth i'r Comisiwn baratoi ar gyfer y chweched Cynulliad, a rhagolygon ar gyfer dwy flynedd gyntaf y chweched Cynulliad. Ac ynddi, fe wnaethom nodi sut y mae'r gyllideb yn cefnogi'r Comisiwn i gyflawni ei nodau strategol o ddarparu cefnogaeth seneddol ragorol, ymgysylltu â phobl Cymru, a hyrwyddo'r Cynulliad a defnyddio adnoddau'n ddoeth.
Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad, a'i Aelodau wrth gwrs. Fel y gwyddom, mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol, o ystyried y nifer gymharol fach sydd ohonom a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy yn awr, ac yn fwyaf amlwg, effaith y DU yn gadael yr UE. Mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi’r Aelodau drwy'r cyfnod hwn. Mae'r ansicrwydd hirsefydlog ynghylch amseriad ymadawiad y DU o'r UE, a thelerau unrhyw ymadawiad, wedi creu heriau o ran cynllunio sut y rhoddwn adnoddau tuag at y gwaith hwnnw fel Cynulliad, a sut y gallwn ni fel deddfwrfa gyflawni'r newidiadau hynny. Er bod telerau Brexit eto i’w penderfynu, rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer gwaith ar ôl Brexit, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud. Mae rheolaethau a chamau gweithredu fel cynllunio senarios a hyfforddiant yn sicrhau ein bod yn rheoli’r risgiau posibl.
Mae'r cysylltiad uniongyrchol â symudiadau ym mloc Cymru wedi'i ddileu yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd yn natganiad egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, ond mae'r gyllideb hon yn dryloyw, yn ddarbodus ac wedi'i gosod yng nghyd-destun cyllido ariannol hirdymor yma yng Nghymru. Mae'n ystyried sut y mae'r Comisiwn yn blaenoriaethu ei adnoddau i sicrhau nad yw gwasanaethau i Aelodau a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn cael eu peryglu.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb a'i ymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch yn ein proses gyllidebu a'n tryloywder, wrth gwrs. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw ymddangos gerbron pwyllgor yn brofiad braf iawn, ond mae ein cwestiynau ni a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn help mawr i hybu gwelliant, ac rwy'n gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn gweld hynny.
Gwnaeth y pwyllgor chwe argymhelliad ar ôl craffu ar y gyllideb ddrafft. Roedd tri o'r argymhellion yn gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder ar faterion penodol: y cyntaf o'r rheini oedd y prosiect i roi meddalwedd ddeddfwriaethol newydd ar waith; manylion ynghylch cynlluniau prosiectau hirdymor y Comisiwn; ac adroddiad ar fanteision hirdymor y cynllun ymadael gwirfoddol. Unwaith eto, rwy'n gobeithio bod y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod ein dymuniad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â hyn, a byddwn yn adrodd yn ôl i chi ar brosiect y feddalwedd ddeddfwriaethol yn ystod haf 2020, pan fydd y contract wedi’i ddyfarnu, ac ar y ddau faes arall yn hydref 2020, gan adlewyrchu'r gofyniad am amcan hirdymor unwaith eto.
Roedd y pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â chymorth staffio i'r comisiynydd safonau ac yn cynnig y dylid nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwn ar wahân o fewn y gyllideb ar gyfer 2021 a’r blynyddoedd i ddod. Rydym wedi gwneud hynny, ac felly mae'r costau hynny bellach wedi'u dangos yn glir yn nhabl 4 a byddant yn parhau i gael eu dangos ar wahân yn y blynyddoedd i ddod. Fe fydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, o ymddiswyddiad y cyn-gomisiynydd safonau. Mae comisiynydd dros dro yn yr arfaeth, ond bydd y gwaith ar graffu ac adolygu'r hyn sydd ei angen ar y comisiynydd safonau o ran ei waith yn dechrau pan benodir y comisiynydd safonau parhaol a phan gawn syniad clir o'r hyn y bydd ei angen ar y sawl a benodir.
Mae'r pumed argymhelliad yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau tryloywder mewn perthynas â chostau ychwanegol pan gaiff polisïau newydd eu hawdurdodi gan y Cynulliad. Mae llywodraethu parhaus ar waith—mae’n rhaid i mi roi sicrwydd i’r Aelodau—mewn perthynas â darparu adnoddau, gan gynnwys i'r comisiynydd safonau, ac wrth gwrs, mae'n berthnasol iawn pan fyddwn yn gweld fersiwn derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y cawn wybod ychydig amdano heddiw, o ran pa newidiadau heb eu prisio y gellid eu gwneud iddo, a'n hymrwymiad felly, fel y gwelwch yn y llythyr atoch, i’r Pwyllgor Cyllid, i ganolbwyntio ar y polisïau newydd hyn a allai ddod drwy'r Cynulliad.
Ac i orffen, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Comisiwn flaenoriaethu cyllid i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r bleidlais i rai 16 oed. Un o nodau strategol y Comisiwn, wrth gwrs, yw ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad. Felly, gallaf gadarnhau, o fewn y cyfanswm hwnnw o £500,000 a neilltuwyd ar gyfer treuliau cyn etholiad, fod £150,000 wedi'i glustnodi ar gyfer y gwaith o godi ymwybyddiaeth.
Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu. Byddaf yn barod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau, ond yn y cyfamser, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ailddatgan ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, a chyflawni’r gwerth gorau am arian ar ran pobl Cymru. Diolch.