Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw, wrth gwrs, gan fod, fel rŷch chi wedi clywed, y Pwyllgor Cyllid wedi cael cyfle yn ein cyfarfod ar 3 Hydref i drafod cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, ac fe gyhoeddom ni wedyn yn dilyn hynny ein hadroddiad ni ar 17 Hydref. Ac ar ran aelodau'r pwyllgor, hoffwn innau ddiolch i Suzy Davies a swyddogion y Cynulliad am ymateb i gwestiynau ac argymhellion y pwyllgor.
Ym mis Mai llynedd, fe argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid dychwelyd unrhyw danwariant o'r gyllideb ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau yn ôl i gronfa gyfunol Cymru. Roedd y mater hwn wedi bod yn destun pryder i ni ers cryn amser, felly rŷn ni yn falch bod ein hargymhelliad ni wedi'i weithredu.
Mae'r pwyllgor yn credu ei bod hi'n flaenoriaeth sicrhau bod y Cynulliad yn gwella ei ymgysylltiad â holl bobl Cymru ac roeddwn i'n synnu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cyfeiriadau penodol at y Senedd Ieuenctid, y Cynulliad Dinasyddion na mentrau eraill. Rŷn ni'n croesawu’r ymrwymiad o £250,000 ar gyfer ymgysylltu, ond roedd yr Aelodau'n awyddus i sicrhau bod unrhyw weithgaredd ymgysylltu yn un ystyrlon ac nid yn docynistaidd.
Mae'r pwyllgor yn falch bod prosiect y feddalwedd ddeddfwriaeth, fel y clywon ni, yn cael ei ddatblygu gyda chyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu ar fater arall, nad yw'r gost sy'n cael ei amcangyfrif o £4 miliwn ar gyfer prosiect newid ffenestri Tŷ Hywel wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020-21 na chyllidebau dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dyw hi ddim yn eglur sut y caiff y gwaith hwn ei symud ymlaen gan fod £345,000 wedi'i ddyrannu i'r prosiect ffenestri yn y gyllideb ar gyfer 2019-20, ond eto, bryd hynny, nid oedd unrhyw astudiaethau dichonoldeb wedi’u cynnal. Er ein bod ni'n croesawu’r ffaith bod y Comisiwn yn derbyn ein hargymhelliad i ddarparu manylion ei gynlluniau prosiect tymor hir, dyw hi ddim yn glir i ni pam na fydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, yn ôl y gofyn, ond yn hytrach erbyn 1 Hydref.
Mae trefniadau staffio’r Comisiwn hefyd wedi bod yn broblem i'r pwyllgor dros y blynyddoedd. Er bod camau wedi'u cymryd i wella tryloywder penderfyniadau staffio, mae'r pwyllgor yn pryderu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif mwy cywir o gostau staff am y flwyddyn, heb fod angen amcangyfrif trosiant, neu churn, o safbwynt staffio. O'r herwydd, rŷn ni wedi gofyn am ddiweddariad ar y ddarpariaeth churn neu drosiant staffio.
Roedd diffyg tryloywder ynghylch nifer y staff yn bryder arbennig i'r pwyllgor yng ngoleuni'r cynllun ymadael gwirfoddol diweddar. Rŷn ni'n credu y dylai cynllun sy'n rhyddhau 24 aelod o staff ac sy'n cynnwys taliadau diswyddo gwirfoddol sylweddol, fel y ddau dros £100,000, ddim ond gael ei ddefnyddio pan gellir dangos tystiolaeth o ailstrwythuro neu newid sylweddol. Dyw'r pwyllgor ddim wedi gweld digon o dystiolaeth o newid o’r fath eto, ac mae'n siomedig na fydd y cynllun yn arwain at arbedion, yn enwedig o ran nifer y staff. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell bod adroddiad blynyddol ar fuddion ariannol tymor hir y cynllun ymadael gwirfoddol yn cael ei ddarparu i'r pwyllgor. Mae'r Comisiwn wedi dweud y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cael adroddiad ar hyn erbyn mis Medi 2020, ond aeth ymateb y Comisiwn ddim mor bell â derbyn ein hargymhelliad.
Rŷn ni wedi argymell o'r blaen y dylai'r Comisiwn gadw cap ar lefelau staffio, ac fe gadwyd at y cap hwnnw. Ond, fe gynyddodd y Comisiwn y cap hwn yn ddiweddar o 491 i 497, ac fe glywsom ni dystiolaeth y gallai nifer y swyddi gynyddu i 501, plws, wrth gwrs, mae yna ddwy swydd ychwanegol i gefnogi'r comisiynydd safonau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gofyniad i'r Comisiwn ddarparu adnoddau i gefnogi'r comisiynydd safonau, wrth gwrs, ond fe godwyd pryderon ynghylch y dull creadigol o gyfri wrth greu’r ddwy swydd ychwanegol yma yn ychwanegol at y cap.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y manylion a ddarperir gan y Comisiwn ynghylch y trefniadau staffio a'r cynllun ymadael gwirfoddol. Fodd bynnag, mae'n anodd deall sut y gall sefydliad sector cyhoeddus, mewn cyfnod o gynni, ryddhau 24 aelod o staff ond dal i gynyddu cyfanswm nifer y swyddi. Rŷn ni'n credu hefyd fod angen mwy o dryloywder o ran sut mae'r comisiynydd safonau yn cael ei ariannu, ac rydyn ni'n croesawu'r datganiad y bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yn y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn hon a'r blynyddoedd i ddod.
O ystyried y gwaith ychwanegol sydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, roedd y pwyllgor yn synnu nad yw'r gyllideb ar gyfer gwariant etholiadau yn uwch na'r gwariant ar gyfer etholiadau blaenorol. Rŷn ni'n awyddus bod y Comisiwn yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd ar y gwaith cynllunio senarios a wnaed gan y Comisiwn i baratoi ar gyfer gwahanol ganlyniadau posibl Brexit. Ac yn olaf, hoffai’r pwyllgor gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan staff y Comisiwn dros y 12 mis diwethaf wrth baratoi, wrth gwrs, ar gyfer y posibilrwydd bod Brexit yn digwydd.
A gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch am y cyfle i gyfleu safbwyntiau’r Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad?