12. Dadl Fer: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:48, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cynhyrchu fframwaith datblygu cenedlaethol yn rhan o ymdrech ar y cyd gan y Llywodraeth hon i ddangos arweinyddiaeth wrth frwydro yn erbyn a mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu. Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd mwy na 11,000 o wyddonwyr ledled y byd ein bod yn wynebu dioddefaint aruthrol yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae eu hasesiad llwm yn ei gwneud yn ofynnol inni newid ein ffyrdd o fyw a gweithredu ar unwaith. Mae'r argyfwng yn ddirfodol, yn uniongyrchol ac yn ddiymwad ac mae'n cyflymu'n gynt na'r hyn roedd y rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ddisgwyl.

Fel Llywodraeth, ni allwn anwybyddu'r bygythiad mwyaf i'n planed; ein cyfrifoldeb ni yw brwydro yn erbyn y bygythiad hwn a chynllunio ar gyfer ein hanghenion ynni cenedlaethol. Mae ein polisi ynni yn cael ei lywio gan ein hymrwymiadau datgarboneiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd am ostyngiad o 95 y cant yng Nghymru ac mae'n bwriadu deddfu i'r perwyl hwn yn 2020. Mae hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru i ymrwymiad y DU o dan gytundeb Paris. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi datgan ein huchelgais i gyrraedd sero-net o ran carbon erbyn 2050 a byddwn yn gweithio gyda Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a rhanddeiliaid eraill i ddeall sut y gellir cyflawni hyn. Drwy anelu at gyrraedd sero-net, ni fydd yr unig Lywodraeth sy'n ystyried mynd y tu hwnt i argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gynhyrchu 70 y cant o'n defnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae 'Ynni Cymru: y Newid i Garbon Isel' a 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' yn cynnwys polisïau ac argymhellion sy'n ceisio cyfyngu ar gynhyrchiant tanwydd ffosil, cynyddu cyfraddau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel ac annog arloesi yn y sector ynni yng Nghymru. Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd y mae'r trawsnewidiad hwn yn eu cynnig i gynyddu ffyniant yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn diwallu hanner ein hanghenion o ran pŵer drwy ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni nodi adnoddau pellach i ddiwallu'r angen cynyddol am wres a thrafnidiaeth garbon isel. Mae'r system gynllunio yn allweddol i gyflawni ein targedau. Mae'r polisïau a amlinellir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn dangos ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio Cymru ymhellach. Yn seiliedig ar ymchwil annibynnol, mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft wedi nodi ardaloedd blaenoriaeth lle gellir lleoli datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr. Rydym yn darparu'r arweiniad cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer y newid sylfaenol sy'n rhaid inni ei gyflawni yng Nghymru i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi darparu arweiniad polisi strategol o'r fath ar gyfer ynni solar a gwynt ar y tir.

Rwy'n cydnabod yr effaith bosibl y gallai datblygiadau ynni adnewyddadwy ei chael. Mae polisïau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn ceisio cyfyngu ar raddau'r effaith hon. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith gronnus bosibl cynigion a'r effaith y gall hyn ei chael ar ymdeimlad cymuned neu anheddiad eu bod wedi’u hamgylchynu gan ddatblygiad. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi hyn yn glir fel mater allweddol y bydd angen rhoi sylw iddo mewn cynigion datblygu.

Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn darparu sylfaen i benderfynu ar brosiectau seilwaith mawr sydd wedi eu dynodi’n ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Er ein bod yn derbyn egwyddor newid tirwedd, nid ydym yn disgwyl i'r holl ardaloedd blaenoriaeth a nodwyd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft gael eu gorchuddio'n gyfan gwbl â ffermydd gwynt, fel y mae rhai o'r ymatebion mwy brawychus wedi’i awgrymu, ac fel y clywsom heddiw gan Neil Hamilton.

Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer ffermydd gwynt mawr gynnwys asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac mae’n rhaid ystyried hyn wrth benderfynu ar geisiadau. Mae oddeutu 25 y cant o Gymru naill ai'n barc cenedlaethol neu'n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u diogelu'n statudol ac fe'u heithriwyd rhag cael eu hystyried yn ardaloedd blaenoriaeth. Mae'r polisi yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn nodi nad yw ynni gwynt a solar ar raddfa fawr yn briodol yn yr ardaloedd hyn.

Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'i chwaer-ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', yn datgan cefnogaeth gref i ddull rhanbarthol a lleol cryfach o gynllunio. Mae cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ynni adnewyddadwy, a bydd hyn yn parhau wrth i'r gweddill gael eu mabwysiadu ac wrth i rai eraill gael eu hadolygu. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghymru gynnwys elfen, o leiaf, o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu budd gwirioneddol i gymunedau yng Nghymru. Rydym am sicrhau nad yw'r Gymru wledig yn cael ei gadael ar ôl. Yn wir, gallem weld y Gymru wledig yn arwain o ran cynyddu gwerth y datblygiadau hyn i'r economi leol, gan ddiwallu anghenion ynni Cymru a chadw'r buddion o fewn yr economi leol honno. Rydym yn disgwyl y bydd datblygiadau ynni adnewyddadwy, yn enwedig y rhai sy'n eiddo i bobl yng Nghymru, yn darparu cyfran deg a chymesur o'r budd i Gymru yn gyfnewid am eu cynnal.

Rwy'n cydnabod bod canolbarth Cymru eisoes yn cynhyrchu cryn dipyn o ynni adnewyddadwy. Er enghraifft, yn yr adroddiad diweddar ar gynhyrchiant ynni, mae Ceredigion wedi bod yn cynhyrchu mwy o drydan adnewyddadwy nag y mae'n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o ynni glân arnom os ydym am ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth a pheidio â bod yn ddibynnol ar danwydd ffosil. Mae angen inni sicrhau hefyd fod y cymunedau sy'n ddibynnol ar olew yng nghanolbarth Cymru yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau y gallant elwa o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr y grid i esblygu atebion grid i ddiwallu anghenion Cymru, fel eu bod yn briodol i'r dirwedd ac er mwyn gwella cydnerthedd. Mae gweithredwyr y grid yn gweithio i sicrhau bod y grid sydd ar waith yn hyblyg, yn effeithlon ac yn glyfar. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i'r holl drydan adnewyddadwy a gynhyrchir gael ei drosglwyddo drwy'r grid. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn gynllun ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, ac yn anochel, bydd datblygiadau technolegol o ran trosglwyddo, dosbarthu a storio ynni dros y cyfnod hwn. Hefyd, er mai ynni gwynt ar y tir a solar yw'r technolegau mwyaf fforddiadwy, mae'n bwysig nodi bod ystod o dechnolegau eraill a fydd yn helpu i ddiwallu ein hangen am ynni.

Bydd y cynllun morol cenedlaethol cyntaf yn cael ei fabwysiadu cyn bo hir. Bydd hwn yn darparu'r polisïau i gefnogi datblygu cynaliadwy mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy’r môr. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym gymysgedd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i ddarparu ynni diogel, dibynadwy ar y môr ac ar y tir.

Mae'r cyfnod ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn para hyd at ddiwedd yr wythnos hon. Ar ôl hyn, byddaf yn ystyried y sylwadau a gawsom a byddaf hefyd yn penderfynu a oes angen diwygio unrhyw un o'r polisïau yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, heb roi camau gweithredu mentrus a phendant ar waith yn awr, mae'r risg i'n planed yn aruthrol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol a moesol i wneud popeth yn ein gallu i atal achosion newid yn yr hinsawdd. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn ceisio rhoi ymateb polisi rhesymegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i sicrhau ynni adnewyddadwy ledled Cymru gyfan, nid canolbarth Cymru yn unig. Mae dyletswydd arnom tuag at genedlaethau’r dyfodol i weithredu a dangos arweinyddiaeth bendant ar y mater hwn. Mae 11,000 o wyddonwyr yn dweud ein bod yn iawn, ac ymddengys mai dim ond Royston Jones sy'n dweud ein bod yn anghywir. Diolch.