Grŵp 4: Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 13 Tachwedd 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae memorandwm esboniadol y Bil yma yn nodi rhesymeg Comisiwn y Cynulliad wrth ddewis yn fwriadol i beidio â chynnwys etholfreinio gwladolion tramor yn y Bil wrth ei gyflwyno. Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad nad oedd consensws gwleidyddol trawsbleidiol clir ar y mater yma oherwydd y dadleuon dyrys ar bob ochr yn ei gylch. Yn absenoldeb consensws o'r fath, nid oedd y Comisiwn o'r farn ei bod yn briodol i'r Comisiwn wneud newidiadau i'r gyfraith yn yr etholfraint bresennol i gynnwys gwladolion tramor yn y Mesur yma. Fodd bynnag, dwi eisiau cynnig ychydig o sylwadau ar gyd-destun y pwnc yma i Aelodau eu hystyried cyn pleidleisio'r prynhawn yma.    

Yn gyntaf, mae'n bwysig atgoffa'n hunain o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a wnaeth nodi yn ei adroddiad Cyfnod 1 y byddai ymestyn hawliau pleidleisio i wladolion tramor yn cynrychioli newid sylweddol i'r etholfraint etholiadol. Roedd y pwyllgor o'r farn y dylid cynnwys darpariaethau o'r natur hon mewn Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na diwygio'r Bil Senedd ac etholiadau'n hwyrach yn y broses ddeddfu. Roedd y pwyntiau yma wrth wraidd yr hyn roedd David Melding yn ei gynnig fel sylwadau. Ac fel atgoffodd David Melding fi yn benodol, fel y Llywydd yn cyflwyno'r Mesur yma, bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil yma yng Nghyfnod 4 er mwyn iddo gael ei basio. Felly, mae cynnal consensws trawsbleidiol yn bwysig i lwyddiant y ddeddfwriaeth yma yn ei chyfanrwydd, ac mae yn fy mhryderu i os bydd un agwedd yn unig yn peryglu y mwyafrif sydd yn angenrheidiol ar gyfer Cyfnod 4.

Ar y llaw arall, mae'n bwysig hefyd, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddweud a sôn, bydd Aelodau yn cofio bod 66 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad wedi cefnogi datganiad y dylai holl drigolion Cymru fedru pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, waeth beth yw eu cenedligrwydd nhw. Wrth gwrs, rydym ni'n ymwybodol bod yr ymgynghoriad hynny hefyd wedi nodi manteision gweinyddol drwy gysoni etholfraint y Cynulliad ac etholfraint llywodraeth leol. Rydym ni'n ymwybodol o'r newid sydd i'w gyflwyno gan y Llywodraeth maes o law yn y maes yna.

Byddai gwelliannau 61 i 63 David Melding hefyd yn anghymwyso dinasyddion tramor cymwys rhag sefyll i'w hethol i'r Cynulliad, gan ddileu darpariaethau a fewnosodwyd yn y Bil yng Nghyfnod 2. Unwaith eto, nid yw hyn yn fater y mae gan Gomisiwn y Cynulliad safbwynt arno, ond nid ymgynghorodd y Comisiwn ar y mater yma o gwbl, felly ni chyflwynwyd hyn yn y Bil yn wreiddiol. Wedi dweud hynny, gall rhai Aelodau ystyried y byddai galluogi dinasyddion tramor cymwys i sefyll yn gyson â'r egwyddor sy'n sail i'r cynigion polisi ar anghymwyso sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, sef caniatáu i gynifer â phosibl o bobl i sefyll i'w hethol i'r Cynulliad.

Nid fi fel yr Aelod yn cyflwyno'r Mesur yma sydd biau'r polisi yma, nac ychwaith fel nododd Suzy Davies yn glir iawn, nid polisi Comisiwn y Cynulliad yw'r agwedd yma ar y Bil. Ond y Cynulliad cyfan fydd biau'r Bil yma ar ddiwedd y pleidleisio heddiw, ac mae'n bwysig i gadw hynny mewn cof wrth i ni symud at Gyfnod 4.