Grŵp 4: Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:40, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am yr ymyriad. Mae'r darpariaethau craffu eisoes yn cwmpasu'r ddarpariaeth i adrodd ar effeithiolrwydd y darpariaethau hyn mewn perthynas ag estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys a hefyd y darpariaethau ymgeisyddiaeth a'r darpariaethau aelodaeth. Felly, o fewn y mecanwaith adolygu ehangach hwnnw roeddwn eisiau cynnwys sbectrwm llawn y newidiadau i'r Bil y gobeithiwn y byddant yn parhau i Gyfnod 4, am y rheswm y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu.

Ym marn y Llywodraeth, dylid gwrthod gwelliannau 5 a 61, a'r elfennau canlyniadol. Mae effaith ymarferol adfer y sefyllfa i'r sefyllfa cyn i'r gwelliannau hyn gael eu cyflwyno yn y Bil yn golygu bod yna wahaniaethau na fyddai'r un ohonom, rwy'n credu, yn eu hystyried yn arbennig o synhwyrol. Felly, gall dinesydd o Sweden sy'n byw yng Nghymru fod wedi'i gofrestru i bleidleisio, ond ni all dinesydd o Norwy sy'n byw yma fod wedi'i gofrestru i bleidleisio am fod Norwy'n digwydd bod yn aelod o'r AEE, nid o'r UE. Buaswn yn dadlau nad oes modd amddiffyn y gwahaniaethau hynny yn ein byd global. Ac ar yr adeg hon, dylem fod yn atgoffa pawb fod Cymru’n parhau i fod yn agored i'r byd ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb sydd wedi gwneud eu cartref yma yng Nghymru.

Ac ar y pwynt ynglŷn ag ymgysylltiad y cyhoedd â'r cwestiwn hwn, gofynnodd ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ei hun ar greu Senedd i Gymru a ddylid caniatáu i bawb sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, ni waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, ac roedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent gael gwneud hynny. Felly, dylai’r prawf a ddylai rhywun allu pleidleisio dros Senedd, sefyll drosti neu fod yn aelod ohoni, ymwneud ag a ydynt yn preswylio'n gyfreithlon yma yng Nghymru—