Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'r materion hyn wedi'u gwyntyllu'n llawn bellach, ond erys un ffaith: nid yw'r newid pwysig hwn yn yr etholfraint wedi'i graffu'n llawn. Mewn gwirionedd, ni wnaethpwyd unrhyw graffu deddfwriaethol sylfaenol ar y camau priodol, pan all pwyllgorau edrych ar yr egwyddor, galw tystion, gofyn am esboniad ynglŷn â sut y gellir cymhwyso'r newidiadau hyn yn ymarferol. Mae pob math o broblemau’n codi ar hyn o bryd wrth symud oddi wrth yr egwyddor o gydnabod rhyw sail o ddinasyddiaeth. Ar y funud, dyna sut rydym yn caniatáu i ddinasyddion Gwyddelig, dinasyddion Ewropeaidd a dinasyddion y Gymanwlad bleidleisio. Nid ydym wedi gallu archwilio unrhyw beth tebyg i ba mor hir y byddai'n rhaid iddynt breswylio, os oes hawl ganddynt i breswylio. Beth sy'n digwydd pan fydd pobl gyfoethog iawn sydd wedi ymgartrefu yma, gan ddod â symiau mawr o arian i mewn, eisiau ymgyrchu wedyn a sefyll fel ymgeiswyr. Nawr, mae pob math o bethau’n digwydd yn y byd sy'n anodd eu rhagweld. A oes gan bobl sydd wedi cadw dinasyddiaeth gwlad arall hawl i bleidleisio yn yr etholiadau ar lefel gyfatebol yn y wlad honno tra’u bod hefyd yn pleidleisio yn y wlad hon? Fe wnaethom ddileu pleidleisio dwbl mewn llywodraeth leol yng nghanol y 1940au, rwy’n meddwl, os cofiaf yn iawn. Nawr, mae'r rhain yn faterion sylfaenol. Efallai na fyddant yn ddigon sylweddol i atal cynnydd ar y mater hwn. Hynny yw, nid wyf yn gwybod yr atebion i'r cwestiynau rwyf newydd eu gofyn. Ond y broblem yw nad oes neb ohonom wedi cael cyfle i'w gofyn na'u cael wedi'u harchwilio'n briodol. Ac os oeddech chi o ddifrif yn meddwl bod hon yn egwyddor bwysig, byddech yn ei wneud yn eich deddfwriaeth eich hun yng ngolwg Aelodau'r Cynulliad. Nid ydych yn gwneud hynny. Mae hyn yn ddiofal neu'n waeth. Fe ddylech chi wybod yn well.