Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rydych chi newydd ddadlau bod y Comisiwn ei hun wedi ymgynghori rhywfaint ar hyn, ac eto fe wnaethoch anwybyddu canlyniad yr ymgynghoriad yn llwyr mewn perthynas â mater enw'r Senedd—neu mae rhai pobl wedi gwneud hynny. Beth fyddech chi'n ei ddweud am anghysondeb dadleuon? Rwy'n derbyn eich bod wedi cefnogi enw dwyieithog ar gyfer y sefydliad hwn, ond yn sicr ni wnaethoch hynny ar gyfer Aelodau'r sefydliad hwn.