Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Wel, yr un yw'r diffiniad o 'ddinesydd tramor cymwys' a ddefnyddir yn y Bil â’r hyn ddefnyddir mewn cyfraith fewnfudo yn gyffredinol, ac mae'n clymu'r hawl i bleidleisio wrth ganiatâd i aros, neu beidio â bod angen caniatâd i aros. A cheir rhai enghreifftiau sy'n is-setiau o hynny, sef yr enghreifftiau rwyf newydd eu rhoi. Ond y prawf yw p'un a yw rhywun wedi cael caniatâd i aros neu nad oes angen caniatâd arnynt i aros, ac mae'r diffiniad yn y Bil yn adlewyrchu'r prawf hwnnw.